Adnoddau Cymraeg
Mae’r dudalen hon yn llawn adnoddau Cymraeg neu adnoddau sydd am Gymru’n benodol.

Briff ar amgylchedd polisi a chyfreithiol Cymru (Medi 2023)
Mae angen i elusennau sy’n gweithredu’n llwyr neu’n rhannol yng Nghymru fod yn ymwybodol o ddeddfwriaethau sy’n benodol i Gymru, sy’n debyg o effeithio arnynt. Rydym wedi creu papur briffio ar gyfer Cadeiryddion sy’n tynnu sylw at ddeddfwriaethau pwysig sy’n debyg o effeithio ar sut y byddwch yn gweithredu. Mae’n cwmpasu:
- Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015;
- Cynllun y Trydydd Sector;
- Safonau’r Gymraeg a Chyflenwi Gwasanaethau sy’n Canolbwyntio ar y Lleoliad / Person.
Diolch i Richard Newton a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) am greu’r papur briffio hwn.
Lawrlwytho Briff ar amgylchedd polisi a chyfreithiol Cymru
.png)
Cwmpawd y Cadeirydd – argraffiad Cymraeg
Mae Cwmpawd y Cadeirydd – canllaw i Gadeiryddion elusennau a sefydliadau nad ydynt yn gwneud elw ar gael yn Gymraeg. Mae’n canolbwyntio’n llwyr ar safbwynt y Cadeirydd a heriau a chyfleoedd penodol y rôl. Mae’n:
- werthfawr ar gyfer Cadeiryddion newydd a phrofiadol
- cynnig awgrymiadau ymarferol a rhywbeth i feddwl amdano
- defnyddiol ar gyfer Cadeiryddion a’r bobl sy’n eu cynorthwyo, yn cynnwys Is-gadeiryddion, ymddiriedolwyr, Prif Weithredwyr ac ymgynghorwyr llywodraethiant
Diolch i Heddwen Pugh-Evans am y cyfieithiad.
Lawrlwytho Cwmpawd y Cadeirydd

Diolch o galon i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am y grant wnaeth y gwaith yma’n bosibl.
